Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

 

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn

 

Dydd Mawrth 21 Ebrill 2015 a dydd Mercher 22 Ebrill 2015

Dydd Mawrth 28 Ebrill 2015 a dydd Mercher 29 Ebrill 2015

Dydd Mawrth 5 Mai 2015 a dydd Mercher 6 Mai 2015

 

Dydd Mawrth 21 Ebrill 2015

 

Busnes y Llywodraeth

 

·         Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)

·         Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

·         Y diweddaraf am weithredu Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (30 munud)

·         Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg: Strategaeth Digidol yn Gyntaf (30 munud)

·         Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân:

·         Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) (5 munud)

·         Rheoliadau Digartrefedd (Bwriadoldeb) (Categorïau Penodedig) (Cymru) (5 munud)

·         Rheoliadau Digartrefedd (Gweithdrefnau Adolygu) (Cymru) (5 munud)

·         Dadl ar Wasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys Cymru (60 munud)

 

 

Dydd Mercher 22 Ebrill 2015

 

Busnes y Llywodraeth

 

 

Busnes y Cynulliad

 

·         Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud)

·         Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

 

NNDM5715

Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)

William Graham (Dwyrain De Cymru)

Lynne Neagle (Torfaen)

William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud y canlynol:

 

a) Annog moratoriwm ar gloddio brig ledled Cymru er mwyn penderfynu a yw cyfraith cynllunio a chanllawiau cyfredol yn gwarchod cymunedau y mae cloddio brig yn effeithio arnynt ddigon;

 

b) Ymateb i'r ymchwil i’r methiant i adfer safleoedd glo brig yn ne Cymru, gan nodi'n benodol sut y gallai fynd i'r afael â'r pryderon ynghylch ymarferoldeb MTAN2 a'r glustogfa 500m; a

 

c) Cefnogi awdurdodau lleol yr effeithir arnynt i wneud heriau cyfreithiol, pan fo angen, wrth adfer.

 

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

·         Dadl Fer – Russell George (Sir Drefaldwyn) (30 munud)

·         Dadl Fer – Leanne Wood (Canol De Cymru): Darparu Difidend Datganoli ar gyfer Cymru gyfan (30 munud) - Gohiriwyd ers 18 Mawrth 2015  (30 munud)

 

Dydd Mawrth 28 Ebrill 2015

 

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)

·         Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

·         Datganiad ar y diweddariad ar ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflwyno 500 o Swyddogion Cymorth Cymunedol ychwanegol yng Nghymru (30 munud)

·         Dadl ar Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2013-14 (60 munud)

 

Dydd Mercher 29 Ebrill 2015

 

Busnes y Llywodraeth

 

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth (45 munud)

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus (45 munud)

 

Busnes y Cynulliad

 

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Ran 2 yr ymchwiliad i arferion gorau o ran y gyllideb - Cynllunio a gweithredu gweithdrefnau cyllidebol newydd (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)

·         Dadl Fer – Suzy Davies (Gorllewin De Cymru) (30 munud)

 

Dydd Mawrth 5 Mai 2015

 

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)

·         Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

 

Dydd Mercher 6 Mai 2015

 

Busnes y Llywodraeth

 

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud) 

·         Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (45 munud)

 

Busnes y Cynulliad

 

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

·         Dadl Fer – Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru) (30 munud)